SL(5)257 – Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Caniateir i dir gael ei gofrestru fel maes tref neu bentref o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”). Un o nodweddion pob un o’r amgylchiadau hynny yw bod rhaid bod nifer sylweddol o drigolion unrhyw ardal leol, neu unrhyw gymdogaeth o fewn ardal leol, wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon ‘drwy hawl’ ar y tir o dan sylw am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf.

Mae adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o’r fath adneuo datganiad gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hyn yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef. Rhaid i fap fynd gyda’r datganiad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adneuo datganiadau o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 a materion cysylltiedig.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.2(i) - ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires

Rhaid i ddatganiadau a adneuir gan berchnogion tir[1] gydag awdurdodau cofrestru tiroedd comin o dan y Rheoliadau hyn gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y perchennog tir. Yna, caiff y datganiadau eu cynnwys ar gofrestrau cyhoeddus y mae'n ofynnol i awdurdodau cofrestru tiroedd comin ar draws Cymru eu cadw ar ffurf electronig a phapur.

Ystyr hyn yw, lle y gall y perchennog tir roi cyfeiriad cartref, rhif ffôn cartref neu bersonol a chyfeiriad e-bost personol yn unig, y bydd y manylion personol hynny ar gael yn gyhoeddus i unrhyw un eu gweld.

Mae hyn yn ymyrryd â hawliau preifatrwydd perchnogion tir o dan Erthygl 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Erthygl 8 yn hawl amodol, sy'n golygu y gellir cyfiawnhau ymyrryd ag Erthygl 8.

Fodd bynnag, nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn darparu cyfiawnhad dros gynnwys manylion personol megis cyfeiriadau cartref, rhifau ffôn cartref neu bersonol a chyfeiriadau e-bost personol mewn cofrestr gyhoeddus. Er y gall fod rhesymau cadarn dros gynnwys gwybodaeth bersonol o'r fath ar gofrestr gyhoeddus yng nghyd-destun penodol y Rheoliadau hyn, nid oes gan y Pwyllgor fawr o ddewis, oherwydd y diffyg cyfiawnhad, heblaw gofyn a yw hawliau Erthygl 8 yn cael eu torri. O ganlyniad, nid oes gennym fawr o ddewis heblaw codi'r cwestiwn a yw'r Rheoliadau intra vires.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru nodi ei chyfiawnhad drwy gyfeirio at y pedwar cwestiwn a ganlyn, h.y. y pedwar cwestiwn a ddefnyddir gan y Goruchaf Lys mewn cyfres o achosion (gan gynnwys R (ar gais Tigere) v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau[2]) wrth benderfynu a oes cyfiawnhad.

Y pedwar cwestiwn yw:

1.     A oes nod cyfreithlon i’r cam sy’n ddigonol i gyfiawnhau cyfyngiad ar hawl sylfaenol?

2.     A yw’r cam wedi’i gysylltu yn rhesymegol â’r nod hwnnw?

3.     A ellid defnyddio cam llai ymwthiol? a

4.     O gofio difrifoldeb y canlyniadau, pwysigrwydd y nod a'r graddau y bydd y cam yn cyfrannu at y nod hwnnw, a oes cydbwysedd teg wedi'i daro rhwng hawliau'r unigolyn a buddiannau'r gymuned?

O ran yr ymgynghoriad ynghylch y mater hwn, nodwn baragraff 3.3 o grynodeb Llywodraeth Cymru o ymatebion i'r ymgynghoriadsy'n nodi yr "awgrymodd nifer [o ymatebwyr i'r ymgynghoriad] wybodaeth ychwanegol y gellid ei chynnwys [mewn datganiad tirfeddiannwr], megis... Cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y tirfeddiannwr (tirfeddianwyr)".

Fodd bynnag, nid yw'n glir a oedd yr ymatebwyr yn deall y byddai unrhyw beth yr oeddent yn awgrymu y dylid ei gynnwys yn y datganiad a adneuir gan berchnogion tir i awdurdodau cofrestru tiroedd comin hefyd yn cael ei gynnwys yn y gofrestr gyhoeddus. At hynny, nid yw'n glir a oedd yr ymatebwyr yn deall y gallai hyn olygu y byddai gwybodaeth bersonol megis rhif ffôn cartref, rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost personol yn cael ei chynnwys mewn cofrestr gyhoeddus.

Yn hyn o beth, nodwn hefyd—

1.     nad oedd yn ymddangos bod y cwestiwn uniongyrchol o ran pa wybodaeth ychwanegol y dylid ei chynnwys yn y gofrestr (h.y. cwestiwn 4 yr ymgynghoriad) yn golygu y byddai unrhyw un yn awgrymu y dylai'r gofrestr gynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn perchnogion tir, a

2.     o ganlyniad, ymddengys fod paragraff 5.7 o'r Memorandwm Esboniadol yn gorsymleiddio'r mater.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Nodwn fod gwrthdaro rhwng y system ar gyfer cofrestru meysydd tref a phentref a'r system gynllunio, a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod hyn "yn broblem... o ystyried y gallai rhywun gofrestru er mwyn drysu neu atal datblygiad cyfreithlon."[3]

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r sylwadau a wnaed mewn cysylltiad ag Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac yn eu derbyn. Mae’n ymrwymo, felly, i wneud offeryn statudol sy’n diwygio cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Medi 2018



[1] Mae'r materion a godwn yn yr adroddiad hwn mewn perthynas â pherchnogion tir yr un mor gymwys i'r rhai sy'n adneuo datganiadau ar ran perchnogion tir.

[2] [2015] UKSC 57

[3] Gweler paragraff 1.2 o'r Ddogfen Ymgynghori